Dyluniad o ansawdd uchel gyda sylw i fanylion
Ein bwriad yw creu cartrefi sy’n bleser byw ynddynt. Cartrefi sy’n effeithlon i’w rhedeg, gyda digon o le ynddynt gan dalu sylw i fanylion.
Dewis ar bob cam
Credwn y dylai pawb gael mynediad i gartref y gallant fod yn falch ohono. Felly, o’r gallu i ychwanegu nodweddion pwrpasol ar eiddo arbennig, i gynnig ystod o opsiynau prynu gan gynnwys Cymorth i Brynu, mae dewis i gael ar bob cam.
Gweld ein heiddo diweddaraf
Cliciwch ar y linc isod i weld ein heiddo diweddaraf yng Ngogledd Cymru.
Pam dewis Medra?
Rydych chi mewn dwylo diogel. Rydym yn gweithio gydag adeiladwyr sydd â phrofiad sylweddol yn y rhanbarth.
Wrth ddewis cartref, credwn y dylai adeilad o ansawdd uchel fod yn rhywbeth safonol, ac y dylai datblygwr eich eiddo gynnig llawer mwy na brics a morter yn unig.
Felly, fel datblygwr yng Nghymru, rydym yn cyfuno ein harbenigedd dylunio a gwybodaeth leol i wneud hynny yn union. Trwy ddewis y lleoliadau gorau ar gyfer ein cartrefi hyfryd, rydym yn creu llefydd i’ch ysbrydoli sy’n eich galluogi i fyw’n dda a chreu cymunedau sy’n ffynnu.
A gan ein bod ni’n lleol, rydyn ni bob amser wrth law i’ch cefnogi chi ar bob cam o’r broses. Dim cwsmer ydych chi i ni, ond cymydog newydd.
Darparwr lleol
Rydym yn gweithredu yng Ngogledd Cymru ac rydym am wella’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio. Felly, gallwch fod yn hyderus y byddwn yn canolbwyntio ac yn buddsoddi yn lleol – rydyn ni yma i aros.