Gofal Cwsmer

Gwasanaeth cwsmeriaid ac ôl-ofal gwych 

Rydyn ni’n hoffi helpu ein cymdogion ac eisiau gwneud yr holl broses o brynu neu rentu yn syml. 

Credwn y dylai symud i gymuned newydd a chartref newydd fod yn brofiad pleserus a chyffrous. Ein nod yw gwneud taith ein cwsmeriaid o o’r cychwyn cyntaf yn un mor bleserus a di-straen â phosibl. 

Offer Amddiffynnol Personol (PPE) 

Cyn yr ymweliad, bydd Medra yn cadarnhau gyda chi yn ysgrifenedig bod gennych offer amddiffynnol priodol. Os na fyddwch yn cadarnhau cyn yr ymweliad, gall eich gwerthwr tai ganslo’r apwyntiad. Mae ein haelodau’n gweithio i ganllawiau arfer gorau sy’n amlinellu’r offer y dylai’r holl bartïon dan sylw ei ddefnyddio yn ystod ymweliad, gan gynnwys menig a gorchuddion wyneb. 

Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio i amddiffyn pawb sy’n ymwneud â gweld eiddo. Mae’n bwysig eich bod chi’n gweithio gyda’ch gwerthwr tai ac yn defnyddio’r PPE priodol i sicrhau diogelwch pawb. 

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau llawn y Llywodraeth ar weld eiddo yma. 

Gwasanaeth cwsmeriaid ac ôl-ofal gwych 

Rydyn ni’n hoffi helpu ein cymdogion ac eisiau gwneud yr holl broses o brynu neu rentu yn syml. 

Credwn y dylai symud i gymuned newydd a chartref newydd fod yn brofiad pleserus a chyffrous. Ein nod yw gwneud taith ein cwsmeriaid o o’r cychwyn cyntaf yn un mor bleserus a di-straen â phosibl. 

GWELD EIDDO A SYMUD I MEWN YN SGIL CORONAFEIRWS (COVID-19) 

Oherwydd pandemig Covid-19, mae’r angen i gadw mewn cysylltiad â’n cwsmeriaid o bell yn golygu bod gennym nifer o ffyrdd o gadw mewn cysylltiad â’n cwsmeriaid. Fodd bynnag, diogelwch a lles pawb yw’r peth pwysicaf, ac er bod mwy o ryddid bellach i symud cartref, dylai iechyd y cyhoedd a chanllawiau’r Llywodraeth ddod yn gyntaf bob amser. Ymhob achos mae’n bwysig cadw at fesurau pellhau cymdeithasol a dylid gohirio unrhyw apwyntiadau corfforol ar unwaith os oes unrhyw un yn hunan-ynysu neu’n dangos symptomau coronafeirws. Mae’r canllaw yn nodi y dylai unrhyw un sydd â symptomau, yn hunan-ynysu neu gysgodi o’r firws ddilyn cyngor meddygol a fydd yn golygu peidio â symud am y tro, os yn bosib.

Mae canllawiau’r llywodraeth  Cymru  yn caniatáu cynnal ymweliadau â thai yn gorfforol o bell gan gadw’n ofalus at ganllawiau iechyd cyhoeddus. Mae’n hanfodol bod diogelwch yn dod yn gyntaf, gyda’r canllawiau’n adlewyrchu hynny. Mae nifer o fesurau i’w dilyn i gynnal ymweliadau’n ddiogel: 

  • Cymru yn unig: dim ond os yw’r eiddo wedi’i lanhau’n drylwyr neu heb ei feddiannu am o leiaf 72 awr y dylid mynd i’w weld yn gorfforol. 
  • Rhaid i ymweliad ddigwydd dim ond gyda phrynwyr sydd â gwir ddiddordeb yn yr eiddo. 
  • Dylid cynnal ymweliadau ar-lein yn gyntaf. 
  • Wrth gynnal ymweliadau corfforol, dylid eu gwneud trwy apwyntiad yn unig ac ni chaniateir tai agored. 
  • Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan olchi eu dwylo cyn yr ymweliad a dylai bod y cyfleusterau golchi dwylo ar gael gyda thyweli papur ar wahân os yn bosib. 
  • Bydd Medra yn ystyried cyfyngu ar nifer y bobl sy’n bresennol yn yr ymweliad er mwyn dilyn canllawiau pellhau cymdeithasol. 
  • Ar ôl i’r ymweliad ddod i ben, dylai perchennog y tŷ sicrhau bod arwynebau fel dolenni drysau yn cael eu glanhau. 
Cookie Settings