Ar gael yn fuan
Datblygiad newydd unigryw o bedwar ar ddeg o gartrefi 3 a 4 ystafell wely i’w gwerthu ar y farchnad agored ym mhentref poblogaidd Bwcle. Dyluniwyd pob cartref gyda theuluoedd mewn golwg gyda chartrefi hael, cynllun agored, parcio preifat a garejys.
Mae ysgolion lleol sydd o fewn pellter cerdded yn rhagorol. Mae The Medows hefyd yn agos at archfarchnadoedd lleol, swyddfeydd post a llwybrau bysiau.
Mae Bwcle ychydig 2 filltir o Dref Sirol yr Wyddgrug ac o fewn pellter teithio i Ddinas hanesyddol Caer. Mae Bwcle wedi’i leoli ar yr A549, ac mae ger gwibffordd yr A55, sy’n mynd i’r de o Ewloe. Mae M53 J12 9 milltir i ffwrdd ac yn darparu cysylltiadau â rhwydweithiau’r draffordd.
Bydd cartrefi ar gael i’w cadw o Gwanwyn 2024
I gofrestru’ch diddordeb, cysylltwch â’r tîm gwerthu:
post@taimedrahomes.co.uk,
01248 667400
Mae Medra yn adeiladu eiddo gwych yng Ngwynedd. Ein cenhadaeth yw darparu cartrefi hardd i gwsmeriaid ar bob cam o’r ysgol eiddo.
Arolygwyd pob cartref yn annibynnol yn ystod y gwaith adeiladu gan y syrfëwr Gwarant annibynnol ‘QAssure’ a Rheoli Adeiladu
Mae Medra wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid trwy gydol y broses brynu a thu hwnt.
Cartrefi i brynwyr tro cyntaf i’r rhai sydd am symud i gartref llai, ac i bawb arall
Rydym yn ymfalchïo yn ein heiddo helaeth, ynni-effeithlon gyda lefelau uchel o insiwleiddio, systemau gwres canolog graddfa-A a ffenestri gwydr dwbl o ansawdd, gan helpu i leihau costau rhedeg y cartrefi i gwsmeriaid o flwyddyn i flwyddyn. Mae ein cartrefi yn cael eu hadeiladu i fodloni, neu ragori ar y rheoliadau adeiladu diweddaraf, ac rydym yn sefyll wrth ein hymrwymiad i ansawdd trwy gynnwys gwarant 10 mlynedd gyda chefnogaeth yswiriant trwy Protek New Home Warranty
Mae Medra yn darparu’r holl gefnogaeth a chymorth y gall fod ei angen ar gwsmeriaid i brynu eu cartref newydd, symud i mewn a mwynhau byw yno.
Eiddo ar y datblygiad hwn
-
The Woodland – Holmleigh Close
Math o Dŷ : 1 19 Holmleigh Close 21 Holmleigh Close 23 Holmleigh Close 25 Holmleigh Close
-
The Meadow – Holmleigh Close
Math o Dŷ 22 Holmleigh Close 37 Holmleigh Close
-
The Willow – Holmleigh Close
Math o Dŷ : 2 20 Holmleigh Close 27 Holmleigh Close 33 Holmleigh Close